Yr ydym yn dîm o gyfreithwyr
amheuthun ac unigryw, yn seiliedig yng Ngogledd
Cymru, gyda swyddfeydd yn Ninbych a Llanelwy.
Yn ogystal â’r meysydd
mwy traddodiadol o ymarfer cyfreithiol sy’n
ymwneud â thir, gwaith llys, eiddo a busnes,
gallwn wasanaethu’r Cleientiaid hynny sydd eisiau
cyngor trylwyr ac arbenigol ym meysydd Eiriolaeth,
Cynllunio Treth, Ewyllysiau, Profiant, Ymddiriedolaethau,
Amaethyddiaeth, Gwaith Cwmni a Masnach a Chyfraith
Cyflogaeth gymhleth o’n swyddfeydd yng Ngogledd
Cymru.
Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn
draddodiadol wedi cynnal presenoldeb Stryd Fawr (a
bydd yn parhau i wneud hyn), yn nhref Dinbych ac yn
ninas Llanelwy. Mae’r presenoldeb hwn yn sicrhau
fod lefel o arbenigedd ac o gyngor arbenigol ar gael
heb fod angen mynediad i leoliadau canol dinas cymhleth.
Mae hefyd yn sicrhau parhad ein hymroddiad i dwf y
trefi yn unigol, a Cymru gyfan. Yr ydym yn un o’r
prif gyflogwyr yn yr ardal, ac yr ydym yn meddu ar
y wobr Buddsoddwyr Mewn Pobl.
Ein hathroniaeth yw i ‘wneud
y gwahaniaeth’ ar gyfer ein cleientiaid. Yr
ydym yn darparu cyngor awdurdodol mewn iaith glir
a diamwys er mwyn datrys problemau.
Yr ydym yn gweithio dros ystod eang
o gleientiaid, gan gynnwys unigolion preifat, busnesau,
cyrff elus ennol, perchnogion tir a chyrff amaethyddol.
Gallwn ddelio gyda datblygwyr eiddo ac adeiladwyr
tai a busnesau cynghreiriol eraill a phryderon diwydiannol.
Mae gennym hefyd gydgysylltiad gyda phractis cyfreithiol
arbenigol sy’n ymwneud â mwynau, amgylchedd
a thrafnidiaeth, a gall ein hymgynghorwyr gynnig cyngor
ar Faterion Gwastraff ac Iechyd a Diogelwch.
Er ein bod yn seiliedig yn Llanelwy
ac yn Ninbych, nid yw ein gwaith wedi ei gyfyngu i’r
ardal leol. Mae ein cyfreithwyr yn gweithio ar achosion
ledled y Gogledd Orllewin, De Lloegr a thramor yn
gyson.
|